Numeri 9:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses yn anialwch Sinai, flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft:

2. “Mae pobl Israel i ddathlu'r Pasg ar yr amser iawn bob blwyddyn,

3. sef pan mae hi'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis yma. Rhaid cadw'n fanwl at holl reolau a threfn yr Ŵyl.”

4. Felly dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel am gadw'r Pasg.

5. A dyma'r bobl yn gwneud hynny yn anialwch Sinai, ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, pan oedd hi'n dechrau nosi. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

6. Ond roedd rhai o'r bobl yn aflan am eu bod nhw wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw, ac felly doedden nhw ddim yn gallu dathlu'r Pasg y diwrnod hwnnw. Felly dyma nhw'n mynd at Moses ac Aaron

7. a dweud, “Dŷn ni'n aflan am ein bod ni wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw. Ond pam ddylen ni gael ein rhwystro rhag cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD gyda pawb arall o bobl Israel?”

8. A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Arhoswch yma, a gwna i fynd i wrando beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud am y peth.”

9. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

10. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os oes rhywun, heddiw neu yn y dyfodol, yn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw; neu'n methu bod yn y dathliadau am ei fod wedi mynd ar daith bell, bydd yn dal yn gallu dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD.

11. Bydd yn gwneud hynny fis yn ddiweddarach, pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Rhaid iddyn nhw fwyta'r oen gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw.

Numeri 9