Numeri 8:8-11 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.

9. Wedyn rwyt i fynd รข'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.

10. Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

11. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.

Numeri 8