Numeri 7:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dyma nhw'n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg ychen – sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw'n eu cyflwyno nhw i'r ARGLWYDD o flaen y Tabernacl.

4. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

5. “Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.”

6. Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a'r ychen, a'u rhoi nhw i'r Lefiaid.

7. Dwy wagen a pedwar ychen i'r Gershoniaid, i wneud eu gwaith.

8. Dwy wagen a pedwar ychen i'r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio.

9. Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.

10. Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a'i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor.

11. Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru'r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”

Numeri 7