9. “Os ydy rhywun yn syrthio'n farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi i'w ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafio'r pen ar ddiwrnod y puro.
10. Yna'r diwrnod wedyn mynd â dwy durtur neu ddwy golomen at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw, i'w rhoi i'r offeiriad.
11. Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm puro a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl i'r corff marw ei wneud yn euog. Wedyn bydd yn ailgysegru ei hun y diwrnod hwnnw.
12. Bydd rhaid iddo ddechrau o'r dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wedi eu cyflawni cyn i'r person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif.
13. “Dyma'r ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru ei hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw,
14. a cyflwyno'r offrymau canlynol i'r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o'i le arno yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
15. Hefyd basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a bisgedi tenau wedi eu brwsio gydag olew olewydd, a'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw.
16. Bydd yr offeiriad yn cyflwyno'r rhain i gyd i'r ARGLWYDD – sef yr offrwm puro a'r offrwm i'w losgi'n llwyr.
17. Yna'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gyda'r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno'r offrymau o rawn a diod.
18. “Ar ôl hynny rhaid i'r Nasaread siafio ei ben wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a'i roi ar y tân lle mae'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD yn llosgi.
19. Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread.
20. Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.