12. Bydd rhaid iddo ddechrau o'r dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wedi eu cyflawni cyn i'r person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif.
13. “Dyma'r ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru ei hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw,
14. a cyflwyno'r offrymau canlynol i'r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o'i le arno yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
15. Hefyd basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a bisgedi tenau wedi eu brwsio gydag olew olewydd, a'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw.
16. Bydd yr offeiriad yn cyflwyno'r rhain i gyd i'r ARGLWYDD – sef yr offrwm puro a'r offrwm i'w losgi'n llwyr.
17. Yna'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gyda'r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno'r offrymau o rawn a diod.
18. “Ar ôl hynny rhaid i'r Nasaread siafio ei ben wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a'i roi ar y tân lle mae'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD yn llosgi.
19. Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread.
20. Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.
21. Dyma ddefod y Nasareaid. Dyma ei offrwm i'r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi ei addo i'r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi ei addo pan oedd yn mynd trwy'r ddefod o gysegru ei hun.”
22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23. “Dywed wrth Aaron a'i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel:
24. ‘Boed i'r ARGLWYDD eich bendithio chia'ch amddiffyn chi.
25. Boed i'r ARGLWYDD wenu'n garedig arnoch chi,a bod yn hael tuag atoch chi.
26. Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi,a rhoi heddwch i chi.’
27. Bydda i'n bendithio pobl Israel wrth i Aaron a'i feibion wneud hyn ar fy rhan i.”