17. Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr.
18. Yna tra mae'r wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, mae'r offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoi'r offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn mae'r offeiriad i sefyll o'i blaen hi, gyda'r gwpan o ddŵr chwerw sy'n dod â melltith yn ei law.
19. Wedyn rhaid i'r offeiriad wneud i'r wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed i'r dŵr chwerw yma sy'n dod â melltith wneud dim drwg i ti.
20-21. Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.)
22. “Bydd y dŵr yma sy'n achosi melltith yn gwneud niwed i dy gorff, fel dy fod yn methu cael plant byth eto!” A dylai'r wraig ateb, “Amen, amen.”
23. Wedyn mae'r offeiriad i ysgrifennu'r melltithion yma ar sgrôl, cyn eu crafu i ffwrdd eto i'r dŵr.
24. Yna rhaid iddo wneud i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n dod â melltith, fel ei bod yn diodde'n chwerw os ydy hi'n euog.
25. Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwylo'r wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor.
26. Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r offrwm i'w losgi yn ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud i'r wraig yfed y dŵr.
27. “‘Os ydy'r wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddiodde'n chwerw. Bydd hi'n methu cael plant byth eto, a bydd ei henw'n felltith yng ngolwg y bobl.
28. Ond os ydy'r wraig yn ddieuog, a heb wneud ei hun yn aflan, fydd y dŵr yn gwneud dim niwed iddi, a bydd hi'n gallu cael plant eto.
29. “‘Felly, dyma sut mae delio gydag achos o eiddigedd, pan mae gwraig wedi bod yn anffyddlon i'w gŵr ac wedi gwneud ei hun yn aflan.
30. Neu pan mae gŵr yn amau ei wraig ac yn dechrau teimlo'n eiddigeddus. Rhaid iddo ddod â'i wraig i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn mynd trwy'r ddefod yma gyda hi.