10. Mae'r offeiriad yn cael cadw beth bynnag mae unrhyw un yn ei gyflwyno iddo fel offrwm cysegredig.’”
11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12. “Dywed wrth bobl Israel: ‘Dyma sydd i ddigwydd os ydy gwraig rhywun yn anffyddlon iddo:
13. Cymrwch ei bod hi wedi cael rhyw gyda dyn arall heb yn wybod i'w gŵr. (Doedd neb arall wedi eu gweld nhw, a wnaethon nhw ddim cael eu dal yn y weithred).
14. Os ydy'r gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimlo'n genfigennus (hyd yn oed os ydy'r wraig yn ddieuog),
15. rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd, na rhoi thus arno am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg.
16. “‘Bydd yr offeiriad yn gwneud i'r wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
17. Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr.
18. Yna tra mae'r wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, mae'r offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoi'r offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn mae'r offeiriad i sefyll o'i blaen hi, gyda'r gwpan o ddŵr chwerw sy'n dod â melltith yn ei law.
19. Wedyn rhaid i'r offeiriad wneud i'r wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed i'r dŵr chwerw yma sy'n dod â melltith wneud dim drwg i ti.
20-21. Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.)