1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi
3. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).
4. Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl:
5. Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth.
34-48. Felly dyma Moses ac Aaron a'r arweinwyr eraill yn cynnal cyfrifiad o deuluoedd y tri clan oedd yn perthyn i lwyth Lefi – y Cohathiaid, y Gershoniaid a'r Merariaid. Niferoedd y dynion rhwng tri deg a phum deg oed oedd yn cael gweithio yn y Tabernacl. A dyma'r canlyniad:Clan Nifer Cohathiaid 2,750 Gershoniaid 2,630 Merariaid 3,200 Cyfanswm: 8,580 Roedd Moses ac Aaron wedi eu cyfrif nhw i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.