9. Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.โ
10. A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
11. Dyma nhw i gyd โ Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa โ yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.
12. Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.
13. Dyma'r gorchmynion a'r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn รข Jericho.