4. A pan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo – bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.”
5. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi'r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae'r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn.
6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw'n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain.
7. Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi ei etifeddu ddim yn symud o un llwyth i'r llall – bydd pawb yn cadw'r tir wnaethon nhw ei etifeddu gan eu hynafiaid.
8. Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi ei etifeddu gan eu hynafiaid.