Numeri 36:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

11. Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.

12. Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.

13. Dyma'r gorchmynion a'r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

Numeri 36