1. Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais.
2. “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu'r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i'w ferched.
3. Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw yn mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir.
4. A pan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo – bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.”