Numeri 31:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd.

12. A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

13. Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll.

14. Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.

15. “Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw.

16. “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD!

17. Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn.

18. Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”

19. “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.

20. Rhaid i chi lanhau eich dillad i gyd, a popeth sydd wedi ei wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.”

Numeri 31