Numeri 31:1-19 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.”

3. Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD.

4. Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”

5. Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd.

6. A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.

7. A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd,

8. gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor.

9. Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a popeth arall o werth oddi arnyn nhw.

10. Wedyn dyma nhw'n llosgi eu trefi a'u pentrefi nhw i gyd.

11. Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd.

12. A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

13. Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll.

14. Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.

15. “Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw.

16. “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD!

17. Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn.

18. Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”

19. “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.

Numeri 31