2. “Pan mae rhywun yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, rhaid iddo gadw ei air a gwneud beth ddwedodd e.
3. “Os ydy merch ifanc, sy'n dal i fyw adre gyda'i theulu, yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n gosod ei hun dan lw,
4. a'i thad yn ei chlywed yn gwneud hynny, ac yn dweud dim am y peth, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.
5. Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol.
6. “Os ydy'r ferch yn priodi ar ôl tyngu llw neu wneud addewid byrbwyll,
7. a'i gŵr yn clywed am y peth ond yn dweud dim, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.
8. Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
9. “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo.