4. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron.
5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6. “Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr.
7. Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl.
8. Byddan nhw'n gofalu am holl offer Pabell Presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel.
9. Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall.
10. Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb ydy marwolaeth.”
11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12. “Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid,
13. am mai fi piau pob mab cyntaf. Ro'n i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
14. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai:
15. “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'i claniau – pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.”
16. Felly dyma Moses yn eu cyfri nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
17. Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari.
18. Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei.
19. Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel.
20. Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi.Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.
21. Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei –