39. Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed.
40. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un.
41. Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”
42. Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
43. Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.
44. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
45. “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD.
46. Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri
47. drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un.
48. Rho'r arian yma i Aaron a'i feibion.”
49. Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben.
50. Casglodd 1,365 sicl, sef tua un deg pump cilogram o arian.
51. Yna dyma Moses yn rhoi'r arian i Aaron a'i feibion, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.