25. Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw,
26. llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
27. Disgynyddion Cohath oedd claniau Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel –
28. sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr.
29. Roedd teuluoedd y Cohathiaid i wersylla i'r de o'r Tabernacl.
30. Ac arweinydd y Cohathiaid oedd Elitsaffan fab Wssiel.
31. Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
32. Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr.
33. Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi –
34. sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.
35. Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl.
36. Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
37. Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau.
38. Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb oedd marwolaeth.
39. Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed.
40. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un.
41. Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”
42. Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
43. Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.