10. Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
11. “‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis rhaid rhoi'r canlynol yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
12. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gyda'r hwrdd,
13. a cilogram gyda pob un o'r wyn. Mae pob un yn offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr, ac yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
14. Yn offrwm o ddiod gyda nhw: dwy litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn.“‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn.
15. Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
16. “‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
17. Yna mae Gŵyl arall yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta.
18. Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
19. Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.
20. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
21. ac un cilogram ar gyfer pob oen.
22. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.
23. Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore.
24. Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r ARGLWYDD, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael ei llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw.
25. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.