10. Ac os oes ganddo ddim brodyr, mae'r etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad.
11. Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
12. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel.
13. Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw,
14. am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela, a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin.)
15. Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD:
16. “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl.
17. Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”
18-19. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.
20. Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo.