Numeri 25:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau.

3. Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel,

4. a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.”

5. Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.”

6. Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd.

7. A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon,

8. a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio.

9. Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.

Numeri 25