Numeri 24:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Erbyn hyn roedd Balaam yn gweld fod yr ARGLWYDD am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch.

2. Pan edrychodd dyma fe'n gweld Israel wedi gwersylla bob yn llwyth. A dyma Ysbryd Duw yn dod arno.

3. A dyma fe'n cyhoeddi'r neges yma:“Dyma neges Balaam fab Beor;proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.

4. Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad,ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo.Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:

5. Mae dy bebyll di mor hardd, Jacob;ie, dy wersylloedd, O Israel.

6. Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter,ac fel gerddi ar lan afon.Fel perlysiau wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD,neu goed cedrwydd ar lan y dŵr.

7. Bydd ganddyn nhw ddigon o ddŵr i ddyfrio'r tir,a bydd eu disgynyddion fel dyfroedd di-baid.Bydd eu brenin yn fwy nac Agag,a'i deyrnas wedi ei dyrchafu'n uchel.

8. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.Byddan nhw'n dinistrio gwledydd eu gelynion –yn torri eu hesgyrn yn ddarnau,a'u saethu gyda saethau.

Numeri 24