8. Ond sut alla i felltithio pan mae Duw ddim yn gwneud?Sut alla i gondemnio'r rhai dydy'r ARGLWYDD ddim am eu condemnio?
9. Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau.Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau.Maen nhw'n bobl unigryw,yn wahanol i'r gwledydd eraill.
10. Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”
11. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio'r gelyn! A dyma ti'n eu bendithio nhw!”
12. A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i mi.”
13. Felly dyma Balac yn dweud wrtho. “Tyrd i rywle arall i edrych arnyn nhw. Fyddi di ddim ond yn gweld rhai ohonyn nhw. Melltithia'r rheiny i mi.”
14. Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un.
15. Dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi, tra dw i'n mynd i gyfarfod yr ARGLWYDD draw acw.”
16. A dyma'r ARGLWYDD yn cyfarfod gyda Balaam, ac yn rhoi neges iddo ei rhannu gyda Balac.
17. Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?”
18. A dyma'r neges roddodd Balaam iddo,“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.Gwranda'n ofalus, fab Sippor:
19. Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw.Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl.Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud?Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
20. Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.
21. Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob;nac yn gweld dim o'i le ar Israel.Mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.
22. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.
23. Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel.Rhaid dweud am Jacob ac Israel,‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’
24. Bydd y bobl yn codi fel llewes,ac yn torsythu fel llew.Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth,ac yfed gwaed y lladdfa.”
25. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.”
26. Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?”