Numeri 23:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?”

18. A dyma'r neges roddodd Balaam iddo,“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.Gwranda'n ofalus, fab Sippor:

19. Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw.Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl.Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud?Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!

20. Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.

21. Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob;nac yn gweld dim o'i le ar Israel.Mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.

22. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.

23. Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel.Rhaid dweud am Jacob ac Israel,‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’

24. Bydd y bobl yn codi fel llewes,ac yn torsythu fel llew.Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth,ac yfed gwaed y lladdfa.”

25. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.”

26. Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?”

27. Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.”

Numeri 23