7. Felly dyma arweinwyr Moab a Midian yn mynd i edrych am Balaam, a'r arian ganddyn nhw i dalu iddo felltithio Israel. Pan gyrhaeddon nhw, dyma nhw'n dweud wrtho beth oedd Balac eisiau.
8. “Arhoswch yma heno,” meddai Balaam, “a bore fory bydda i'n dweud wrthoch chi beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.” Felly dyma arweinwyr Moab yn aros gyda Balaam.
9. A dyma Duw yn dod at Balaam a gofyn, “Pwy ydy'r dynion yma sydd gyda ti?”
10. Atebodd Balaam, “Balac fab Sippor, brenin Moab, sydd wedi eu hanfon nhw ata i, i ddweud,
11. ‘Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman! Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad.’”
12. “Paid mynd gyda nhw,” meddai Duw wrth Balaam. “Rhaid i ti beidio melltithio'r bobl yna, achos dw i wedi eu bendithio nhw.”
13. Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, a dweud wrth swyddogion Balac, “Ewch adre. Dydy'r ARGLWYDD ddim am adael i mi fynd gyda chi.”
14. A dyma swyddogion Moab yn mynd. Dyma nhw'n mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho fod Balaam wedi gwrthod dod gyda nhw.
15. Ond dyma Balac yn trïo eto, ac yn anfon swyddogion pwysicach y tro yma, a mwy ohonyn nhw.
16. A dyma nhw'n dweud wrth Balaam, “Mae Balac fab Sippor yn dweud, ‘Plîs paid gadael i ddim dy rwystro di rhag dod ata i.
17. Bydda i'n dy dalu di'n hael – does ond rhaid i ti ddweud beth wyt ti eisiau. Unrhyw beth i dy gael di i ddod a melltithio'r bobl yma i mi.’”
18. Ond dyma Balaam yn ateb, “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i.