36. Pan glywodd y brenin Balac fod Balaam ar ei ffordd, aeth allan i'w gyfarfod. Aeth yr holl ffordd i ffin bellaf Moab, i dref wrth ymyl Afon Arnon.
37. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Roeddwn i wedi anfon neges frys atat ti. Pam wnest ti ddim dod yn syth? Oeddet ti ddim yn credu y gallwn i dalu'n hael i ti?”
38. A dyma Balaam yn ateb, “Wel, dw i yma nawr. Ond paid meddwl y galla i ddweud unrhyw beth dw i eisiau. Alla i ddim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.”
39. Yna dyma Balaam yn mynd gyda'r brenin Balac i Ciriath-chwtsoth.
40. Ac yno dyma Balac yn aberthu teirw a defaid, ac yn rhoi peth o'r cig i Balaam a'r swyddogion oedd gydag e.
41. Y bore wedyn dyma'r brenin Balac yn mynd â Balaam i fyny i Bamoth-baal (sef ‛Ucheldir Baal‛). Roedd yn gallu gweld rhywfaint o bobl Israel o'r fan honno.