23. Pan welodd yr asen yr angel yn chwifio'i gleddyf ac yn blocio'r ffordd o'i flaen, dyma hi'n troi oddi ar y ffordd ac yn mynd i gae. A dyma Balaam yn dechrau chwipio'r anifail i geisio ei gael yn ôl ar y ffordd.
24. Ond wrth iddyn nhw fynd rhwng dwy winllan, a wal bob ochr iddyn nhw, dyma angel yr ARGLWYDD yn sefyll eto ar ganol y llwybr cul.
25. Wrth weld yr angel y tro yma, dyma'r asen yn mynd i'r ochr a gwasgu troed Balaam yn erbyn y wal. A dyma fe'n dechrau curo'r anifail eto.
26. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd yn bellach i lawr y llwybr, ac yn sefyll mewn lle oedd mor gul, doedd dim gobaith i'r asen fynd heibio iddo na hyd yn oed droi rownd.
27. Y tro yma, pan welodd yr angel, dyma asen Balaam yn gorwedd i lawr tano. Roedd Balaam wedi gwylltio'n lân, ac roedd yn curo'r anifail gyda'i ffon.
28. Ac yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r gallu i'r asen siarad. Meddai wrth Balaam, “Beth dw i wedi ei wneud i haeddu cael fy nghuro gen ti dair gwaith?”
29. “Ti wedi gwneud i mi edrych yn ffŵl,” meddai Balaam. “Petai gen i gleddyf, byddwn i wedi dy ladd di erbyn hyn!”