Numeri 22:22-39 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ond yna roedd Duw wedi gwylltio am ei fod wedi mynd, a dyma angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd o'i flaen, i'w rwystro. Roedd Balaam yn reidio ar gefn ei asen ar y pryd, a dau o'i weision gydag e.

23. Pan welodd yr asen yr angel yn chwifio'i gleddyf ac yn blocio'r ffordd o'i flaen, dyma hi'n troi oddi ar y ffordd ac yn mynd i gae. A dyma Balaam yn dechrau chwipio'r anifail i geisio ei gael yn ôl ar y ffordd.

24. Ond wrth iddyn nhw fynd rhwng dwy winllan, a wal bob ochr iddyn nhw, dyma angel yr ARGLWYDD yn sefyll eto ar ganol y llwybr cul.

25. Wrth weld yr angel y tro yma, dyma'r asen yn mynd i'r ochr a gwasgu troed Balaam yn erbyn y wal. A dyma fe'n dechrau curo'r anifail eto.

26. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd yn bellach i lawr y llwybr, ac yn sefyll mewn lle oedd mor gul, doedd dim gobaith i'r asen fynd heibio iddo na hyd yn oed droi rownd.

27. Y tro yma, pan welodd yr angel, dyma asen Balaam yn gorwedd i lawr tano. Roedd Balaam wedi gwylltio'n lân, ac roedd yn curo'r anifail gyda'i ffon.

28. Ac yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r gallu i'r asen siarad. Meddai wrth Balaam, “Beth dw i wedi ei wneud i haeddu cael fy nghuro gen ti dair gwaith?”

29. “Ti wedi gwneud i mi edrych yn ffŵl,” meddai Balaam. “Petai gen i gleddyf, byddwn i wedi dy ladd di erbyn hyn!”

30. Dyma'r asen yn dweud wrth Balaam, “Ond dy asen di ydw i, yr un rwyt ti bob amser yn reidio ar ei chefn! Ydw i wedi gwneud rhywbeth fel yma o'r blaen?”“Naddo,” meddai Balaam.

31. A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD adael i Balaam weld yr angel yn sefyll yn y ffordd yn chwifio ei gleddyf. A dyma fe'n ymgrymu a mynd ar ei wyneb ar lawr o flaen yr angel.

32. A dyma'r angel yn gofyn iddo, “Pam wyt ti wedi curo dy asen fel yna dair gwaith? Dw i wedi dod allan i dy rwystro di am dy fod ti ar ormod o frys yn fy ngolwg i.

33. Roedd yr asen wedi fy ngweld i, ac wedi troi i ffwrdd dair gwaith. Petai hi ddim wedi gwneud hynny byddwn wedi dy ladd di erbyn hyn, ond byddai'r asen yn dal yn fyw.”

34. A dyma Balaam yn dweud wrth angel yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu. Doedd gen i ddim syniad dy fod ti yna'n blocio'r ffordd. Felly, os ydw i ddim yn gwneud y peth iawn yn dy olwg di, gwna i droi yn ôl.”

35. Ond dyma'r angel yn dweud wrth Balaam, “Dos gyda nhw. Ond paid dweud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.” Felly dyma Balaam yn mynd yn ei flaen gyda swyddogion Balac.

36. Pan glywodd y brenin Balac fod Balaam ar ei ffordd, aeth allan i'w gyfarfod. Aeth yr holl ffordd i ffin bellaf Moab, i dref wrth ymyl Afon Arnon.

37. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Roeddwn i wedi anfon neges frys atat ti. Pam wnest ti ddim dod yn syth? Oeddet ti ddim yn credu y gallwn i dalu'n hael i ti?”

38. A dyma Balaam yn ateb, “Wel, dw i yma nawr. Ond paid meddwl y galla i ddweud unrhyw beth dw i eisiau. Alla i ddim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.”

39. Yna dyma Balaam yn mynd gyda'r brenin Balac i Ciriath-chwtsoth.

Numeri 22