2. Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi clywed beth oedd pobl Israel wedi ei wneud i'r Amoriaid.
3. Pan welodd pobl Moab gymaint o Israeliaid oedd yna, aethon nhw i banig llwyr. Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
4. A dyma frenin Moab yn dweud wrth arweinwyr Midian, “Bydd y dyrfa enfawr yma yn llyncu popeth o'u cwmpas nhw, fel tarw yn pori cae yn lân.” A dyma Balac, oedd yn frenin Moab ar y pryd,
5. yn anfon neges at Balaam fab Beor oedd yn dod o Pethor wrth yr Afon Ewffrates. “Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman, ac maen nhw wedi setlo gyferbyn â ni.
6. Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Maen nhw'n rhy gryf i mi ddelio gyda nhw. Ond falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad. Achos mae pwy bynnag wyt ti'n ei fendithio yn llwyddo, a pwy bynnag wyt ti'n ei felltithio yn syrthio.”
7. Felly dyma arweinwyr Moab a Midian yn mynd i edrych am Balaam, a'r arian ganddyn nhw i dalu iddo felltithio Israel. Pan gyrhaeddon nhw, dyma nhw'n dweud wrtho beth oedd Balac eisiau.
8. “Arhoswch yma heno,” meddai Balaam, “a bore fory bydda i'n dweud wrthoch chi beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.” Felly dyma arweinwyr Moab yn aros gyda Balaam.
9. A dyma Duw yn dod at Balaam a gofyn, “Pwy ydy'r dynion yma sydd gyda ti?”
10. Atebodd Balaam, “Balac fab Sippor, brenin Moab, sydd wedi eu hanfon nhw ata i, i ddweud,
11. ‘Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman! Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad.’”
12. “Paid mynd gyda nhw,” meddai Duw wrth Balaam. “Rhaid i ti beidio melltithio'r bobl yna, achos dw i wedi eu bendithio nhw.”
13. Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, a dweud wrth swyddogion Balac, “Ewch adre. Dydy'r ARGLWYDD ddim am adael i mi fynd gyda chi.”
14. A dyma swyddogion Moab yn mynd. Dyma nhw'n mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho fod Balaam wedi gwrthod dod gyda nhw.
15. Ond dyma Balac yn trïo eto, ac yn anfon swyddogion pwysicach y tro yma, a mwy ohonyn nhw.