10. Atebodd Balaam, “Balac fab Sippor, brenin Moab, sydd wedi eu hanfon nhw ata i, i ddweud,
11. ‘Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman! Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad.’”
12. “Paid mynd gyda nhw,” meddai Duw wrth Balaam. “Rhaid i ti beidio melltithio'r bobl yna, achos dw i wedi eu bendithio nhw.”
13. Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, a dweud wrth swyddogion Balac, “Ewch adre. Dydy'r ARGLWYDD ddim am adael i mi fynd gyda chi.”
14. A dyma swyddogion Moab yn mynd. Dyma nhw'n mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho fod Balaam wedi gwrthod dod gyda nhw.
15. Ond dyma Balac yn trïo eto, ac yn anfon swyddogion pwysicach y tro yma, a mwy ohonyn nhw.
16. A dyma nhw'n dweud wrth Balaam, “Mae Balac fab Sippor yn dweud, ‘Plîs paid gadael i ddim dy rwystro di rhag dod ata i.
17. Bydda i'n dy dalu di'n hael – does ond rhaid i ti ddweud beth wyt ti eisiau. Unrhyw beth i dy gael di i ddod a melltithio'r bobl yma i mi.’”
18. Ond dyma Balaam yn ateb, “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i.
19. Ond arhoswch yma dros nos, i mi weld os oes gan yr ARGLWYDD rywbeth mwy i'w ddweud.”
20. A dyma Duw yn dod at Balaam eto'r noson honno, a dweud wrtho y tro yma, “Os ydy'r dynion yma wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond paid gwneud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.”