5. Pam wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft i'r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau'n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed ddŵr i'w yfed!”
6. Dyma Moses ac Aaron yn mynd oddi wrth y bobl at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. A dyma nhw'n plygu yno a'i hwynebau ar lawr. A dyma nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yno.
7. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
8. “Cymer dy ffon. Dw i eisiau i ti ac Aaron dy frawd gasglu'r bobl i gyd at ei gilydd. Yna, o flaen pawb, dw i eisiau i ti orchymyn i'r graig roi dŵr. Yna bydd dŵr yn tywallt o'r graig, a bydd y bobl a'r anifeiliaid yn cael yfed ohono.”
9. Felly dyma Moses yn cymryd y ffon o'r lle roedd yn cael ei chadw o flaen yr ARGLWYDD.
10. A dyma Moses ac Aaron yn galw'r bobl at ei gilydd o flaen y graig. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o'r graig yma i chi?”
11. A dyma Moses yn codi ei law ac yn taro'r graig ddwywaith gyda'r ffon, a dyma'r dŵr yn llifo allan ohoni. Cafodd y bobl a'r anifeiliaid ddigonedd i'w yfed.
12. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Am eich bod chi ddim wedi trystio fi ddigon i ddangos i bobl Israel fy mod i'n wahanol, fyddwch chi ddim yn cael arwain y bobl yma i'r wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.”
13. Cafodd y lle ei alw yn ‛Ffynnon Meriba‛, lle roedd y bobl wedi dadlau gyda'r ARGLWYDD, ac yntau wedi dangos iddyn nhw ei fod e i gael ei anrhydeddu, yn Dduw sanctaidd, gwahanol.
14. Dyma Moses yn anfon negeswyr o Cadesh at frenin Edom: “Neges oddi wrth dy berthnasau, pobl Israel: Ti'n gwybod mor galed mae pethau wedi bod arnon ni. Aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft,
15. a buon ni'n byw yno am amser hir. Cawson ni'n cam-drin am genedlaethau gan yr Eifftiaid.
16. Ond yna dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n gwrando arnon ni ac anfon angel i ddod â ni allan o'r Aifft. A bellach, dŷn ni yn Cadesh, sy'n dref ar y ffin gyda dy wlad di.
17. Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n aros ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”
18. Ond ateb brenin Edom oedd, “Na. Well i chi gadw allan o'r wlad yma, neu bydda i'n dod â byddin yn eich erbyn chi!”
19. A dyma bobl Israel yn dweud eto, “Byddwn ni'n cadw ar y briffordd. Os gwnawn ni neu'n hanifeiliaid yfed eich dŵr chi, gwnawn ni dalu amdano. Y cwbl dŷn ni'n ofyn amdano ydy'r hawl i groesi'r wlad ar droed.”