17. Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n aros ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”
18. Ond ateb brenin Edom oedd, “Na. Well i chi gadw allan o'r wlad yma, neu bydda i'n dod â byddin yn eich erbyn chi!”
19. A dyma bobl Israel yn dweud eto, “Byddwn ni'n cadw ar y briffordd. Os gwnawn ni neu'n hanifeiliaid yfed eich dŵr chi, gwnawn ni dalu amdano. Y cwbl dŷn ni'n ofyn amdano ydy'r hawl i groesi'r wlad ar droed.”
20. Ond dyma fe'n ateb eto, “Na, gewch chi ddim croesi.” A dyma fe'n anfon ei fyddin allan i'w rhwystro nhw – roedd hi'n fyddin fawr gref.
21. Felly am fod Edom wedi gwrthod gadael i Israel groesi eu ffiniau nhw, dyma bobl Israel yn troi'n ôl.
22. Dyma nhw i gyd yn gadael Cadesh, ac yn teithio i Fynydd Hor.
23. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron pan oedden nhw wrth Fynydd Hor, ar ffin gwlad Edom:
24. “Mae'n bryd i Aaron fynd at ei hynafiaid – mae'n mynd i farw yma. Fydd e ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i wedi ei rhoi i bobl Israel am fod y ddau ohonoch chi wedi mynd yn groes i beth ddywedais i wrthoch chi wrth Ffynnon Meriba.
25. Dw i eisiau i ti gymryd Aaron a'i fab Eleasar i gopa mynydd Hor.
26. Yno dw i am i ti gymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, a gwisgo ei fab Eleasar gyda nhw. A bydd Aaron yn marw yna, ar y mynydd.”
27. Felly dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Roedd y bobl i gyd yn eu gwylio nhw yn mynd i fyny Mynydd Hor.
28. Wedyn dyma Moses yn cymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, ac yn gwisgo Eleasar gyda nhw. A dyma Aaron yn marw yno, ar ben y mynydd. Wedyn dyma Moses ac Eleasar yn mynd yn ôl i lawr.
29. Pan welodd y bobl fod Aaron wedi marw, dyma nhw i gyd yn galaru amdano am fis.