7. Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8. A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
9. “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.
10. Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.
11. “‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod.
12. Rhaid i'r person hwnnw fynd trwy'r ddefod o buro ei hun gyda dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny bydd yn aros yn aflan.
13. Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro ei hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel, am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.
14. “‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod.
15. A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd.
16. “‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw – corff rhywun sydd wedi ei ladd neu rywun sydd wedi marw'n naturiol – neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod.
17. “‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drostyn nhw mewn llestr.
18. Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd.
19. Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i'r rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhw'n aflan am weddill y dydd.
20. Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puro ei hun, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan.
21. “‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid i'r un sy'n taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd.
22. Bydd beth bynnag mae'r person sy'n aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’”