6. Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.
7. Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8. A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
9. “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.
10. Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.
11. “‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod.
12. Rhaid i'r person hwnnw fynd trwy'r ddefod o buro ei hun gyda dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny bydd yn aros yn aflan.