Numeri 18:20-29 beibl.net 2015 (BNET)

20. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi.

21. A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu – dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl.

22. O hyn ymlaen bydd rhaid i weddill pobl Israel gadw draw oddi wrth y Tabernacl, neu byddan nhw'n euog o bechu a bydd rhaid iddyn nhw farw.

23. Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.

24. Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.”

25. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

26. “Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD.

27. A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg.

28. Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad.

29. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r ARGLWYDD, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’

Numeri 18