17. Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
18. Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio.
19. Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu – yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid.”
20. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi.
21. A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu – dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl.
22. O hyn ymlaen bydd rhaid i weddill pobl Israel gadw draw oddi wrth y Tabernacl, neu byddan nhw'n euog o bechu a bydd rhaid iddyn nhw farw.
23. Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.
24. Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.”
25. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
26. “Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD.
27. A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg.
28. Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad.
29. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r ARGLWYDD, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’
30. “Dywed wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r gorau o'r degwm i'r ARGLWYDD, bydd yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg.
31. Gewch chi a'ch teulu fwyta'r gweddill ohono unrhyw bryd unrhyw le – eich cyflog chi am eich gwaith yn y Tabernacl ydy e.
32. Os gwnewch chi gyflwyno'r gorau ohono i Dduw, fyddwch chi ddim yn euog o bechu trwy ddangos diffyg parch at offrymau pobl Israel, a fydd dim rhaid i chi farw.’”