Numeri 18:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid.

2. Gad i dy berthnasau, o lwyth Lefi, dy helpu di a dy feibion wrth i chi gyflawni eich gwaith o flaen pabell y dystiolaeth.

3. Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw.

4. Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am Babell Presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos.

5. Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr ARGLWYDD ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto.

Numeri 18