1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2. “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel – un deg dwy ohonyn nhw i gyd – ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun.
3. Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth.
4. Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti.
5. Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.”
6. Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo – un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw.
7. A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr ARGLWYDD tu mewn i Babell y Dystiolaeth.
8. Pan aeth Moses i Babell y Dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur, a blodau a chnau almon yn tyfu arni!
9. Felly dyma Moses yn dod a'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni.
10. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.”