Numeri 15:31-41 beibl.net 2015 (BNET)

4-5. Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. A hefyd litr o win yn offrwm o ddiod.

31. Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas, am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.”

32. Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth.

33. Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl.

34. A dyma nhw'n ei gadw'n y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e.

35. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.”

36. Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

37. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

38. “Dywed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las.

39. Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain.

40. Byddwch yn cofio gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cysegru eich hunain i'ch Duw.

41. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Ie, fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

Numeri 15