15. Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid.
16. Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’”
17. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
18. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi,
19. ac yn bwyta'r cnydau sy'n tyfu yno, rhaid i chi ddod a chyflwyno peth ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD:
20. Torth wedi ei gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu.
21. Rhaid i chi bob amser gyflwyno'r toes cyntaf yn offrwm i'r ARGLWYDD.’”
22. “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i Moses –
23. beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol –
24. unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi ei wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr – un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro.
25. Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel â Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo.
26. Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad.
27. “A dyma sydd i ddigwydd os ydy unigolyn yn pechu'n ddamweiniol: Mae'r person hwnnw i ddod â gafr blwydd oed yn offrwm puro.
28. Yna mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng y person wnaeth y camgymeriad a Duw. A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r camgymeriad iddo.