Numeri 15:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi,

3. byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr neu'n offrwm i wneud addewid, neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, neu yn un o'r Gwyliau penodol).

6. Gyda pob hwrdd rhaid i'r offrwm o rawn fod yn ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr a chwarter o olew olewydd.

7. Hefyd litr a chwarter o win yn offrwm o ddiod. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

8. A gyda pob tarw ifanc sy'n cael ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr (neu'n offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni addewid, neu'n offrwm arall i ofyn am fendith yr ARGLWYDD),

9. rhaid i'r offrwm o rawn fod yn dri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda dwy litr o olew olewydd.

10. A hefyd dwy litr o win yn offrwm o ddiod gyda'r offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

11. Dyna sydd i'w gyflwyno gyda pob tarw ifanc, hwrdd, oen neu fwch gafr.

12. Rhaid gwneud hyn gyda pob anifail sy'n cael ei baratoi.

13. “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud.

14. Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi – nawr neu yn y dyfodol – i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

15. Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid.

16. Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’”

Numeri 15