Numeri 14:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna dyma ddau o'r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio'r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo eu dillad.

7. A dyma nhw'n dweud wrth bobl Israel, “Mae'r wlad buon ni'n edrych arni yn wlad fendigedig!

8. Os ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi'r wlad i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.

9. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A peidiwch bod ag ofn y bobl sy'n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae'r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod a'i hofn nhw.”

10. Erbyn hyn roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb trwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg uwch ben Pabell Presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.)

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae'r bobl yma'n mynd i'm dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi eu gweld?

12. Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”

13. A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â'r bobl allan oddi wrthyn nhw.

14. Byddan nhw'n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni'n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda'r bobl yma. Maen nhw'n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda'i llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti'n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a colofn o dân yn y nos.

15. Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda'i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti'n dweud

16. ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i'r wlad oedd e wedi ei haddo iddyn nhw, felly dyma fe'n eu lladd nhw yn yr anialwch!’

17. Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud,

Numeri 14