Numeri 13:22-33 beibl.net 2015 (BNET)

22. Wrth fynd trwy'r Negef dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)

23. Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gyda un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd.

24. Roedd y lle yn cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi ei gymryd oddi yno.

25. Roedden nhw wedi bod yn archwilio'r wlad am bedwar deg diwrnod.

26. A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi ei weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl.

27. Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth.

28. Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno.

29. Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan Afon Iorddonen.”

30. Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!”

31. Ond dyma'r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio'r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw'n llawer rhy gryf i ni!”

32. A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel. “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth!

33. Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!”

Numeri 13