Numeri 13:1-21 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.”

3. Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel.

16. Dyna enwau'r dynion anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hosea fab Nwn yn Josua.

17. Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy'r Negef, ac ymlaen i'r bryniau.

18. Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy'r bobl yn gryf neu'n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu dim ond ychydig?

19. Sut dir ydy e? Da neu drwg? Oes gan y trefi waliau i'w hamddiffyn, neu ydyn nhw'n agored?

20. Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â peth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu).

21. Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw'n archwilio'r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath yn y gogledd.

Numeri 13