5-15. “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi:Llwyth Arweinydd Reuben Elisur fab Shedeŵr Simeon Shelwmiel fab Swrishadai Jwda Nachshon fab Aminadab Issachar Nethanel fab Tswár Sabulon Eliab fab Chelon Yna meibion Joseff:Effraim Elishama fab Amihwd Manasse Gamaliel fab Pedatswr Wedyn,Benjamin Abidan fab Gideoni Dan Achieser fab Amishadai Asher Pagiel fab Ochran Gad Eliasaff fab Dewel Nafftali Achira fab Enan.”
46. A'r cyfanswm oedd 603,550.
47. Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.
48. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49. “Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad.
50. Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas.
51. Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.
52. “Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun.
53. Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i'r ARGLWYDD ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.”
54. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.