Numeri 1:3-52 beibl.net 2015 (BNET)

3. pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,

4. gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.

5-15. “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi:Llwyth Arweinydd Reuben Elisur fab Shedeŵr Simeon Shelwmiel fab Swrishadai Jwda Nachshon fab Aminadab Issachar Nethanel fab Tswár Sabulon Eliab fab Chelon Yna meibion Joseff:Effraim Elishama fab Amihwd Manasse Gamaliel fab Pedatswr Wedyn,Benjamin Abidan fab Gideoni Dan Achieser fab Amishadai Asher Pagiel fab Ochran Gad Eliasaff fab Dewel Nafftali Achira fab Enan.”

16. Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth, yn benaethiaid ar bobl Israel.

17. Felly dyma Moses ac Aaron, a'r dynion yma gafodd eu henwi,

18. yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru,

19. yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.

44. Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad).

45. Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.

46. A'r cyfanswm oedd 603,550.

47. Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.

48. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,

49. “Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad.

50. Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas.

51. Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.

52. “Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun.

Numeri 1