1. Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd:
2. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd –
3. pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,
4. gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.
20-43. A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):Llwyth Nifer Reuben 46,500 Simeon 59,300 Gad 45,650 Jwda 74,600 Issachar 54,400 Sabulon 57,400 Yna meibion Joseff:Effraim 40,500 Manasse 32,200 Wedyn,Benjamin 35,400 Dan 62,700 Asher 41,500 Nafftali 53,400