Nehemeia 9:30-34 beibl.net 2015 (BNET)

30. Buost mor amyneddgar hefo nhw,am flynyddoedd lawer.Buodd dy Ysbryd yn eu siarsiodrwy'r proffwydi.Ond doedden nhw ddim am wrando,felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu.

31. Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.Rwyt ti mor garedig a thrugarog!

32. Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid);paid meddwl mai peth bach ydy hyn.

33. Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni.Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon;ni sydd wedi bod ar fai.

34. Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr,ein hoffeiriaid a'n hynafiaid,ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion.

Nehemeia 9