Nehemeia 9:20-36 beibl.net 2015 (BNET)

20. Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw.Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta,a dal i roi dŵr i dorri eu syched.

21. Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd.Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim;wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo.

22. Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw.Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,a tir Og, brenin Bashan.

23. Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhwag sydd o sêr yn yr awyr.A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweudwrth eu tadau eu bod i'w feddiannu.

24. A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd.Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad.Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw –iddyn nhw wneud fel y mynnon nhwâ'r bobl a'u brenhinoedd.

25. Dyma nhw'n concro trefi caeroga chymryd tir ffrwythlon.Meddiannu tai yn llawn o bethau da,pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd,gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau.Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a pesgi;roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni.

26. Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn di.Troi cefn ar dy Gyfraith di,a lladd dy broffwydioedd wedi bod yn eu siarsioi droi yn ôl atat– roedden nhw'n cablu yn ofnadwy.

27. Felly dyma ti'n gadael i'w gelynioneu gorchfygu a'u gorthrymu.Ond dyma nhw'n gweiddi am dy helpo ganol eu trafferthion,a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd.Am dy fod ti mor barod i dosturio,dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion.

28. Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto,dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg.Felly dyma ti'n gadael i'w gelyniongael y llaw uchaf arnyn nhw.Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto,a byddet tithau'n gwrando o'r nefoeddac yn eu hachub nhw dro ar ôl troam dy fod mor drugarog.

29. Yna roeddet ti'n eu siarsio nhwi droi yn ôl at dy Gyfraith di,ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion.Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau –y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw.Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig;a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd.

30. Buost mor amyneddgar hefo nhw,am flynyddoedd lawer.Buodd dy Ysbryd yn eu siarsiodrwy'r proffwydi.Ond doedden nhw ddim am wrando,felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu.

31. Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.Rwyt ti mor garedig a thrugarog!

32. Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid);paid meddwl mai peth bach ydy hyn.

33. Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni.Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon;ni sydd wedi bod ar fai.

34. Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr,ein hoffeiriaid a'n hynafiaid,ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion.

35. Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu dina troi cefn ar eu ffyrdd drwg,hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw:teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw,a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.

36. A dyma ni, heddiw, yn gaethweisionyn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid!Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma!

Nehemeia 9