Nehemeia 9:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw,pan oedden nhw eisiau bwyd;a dod â dŵr o'r graigpan oedden nhw'n sychedig.Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tirroeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.

16. Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.

17. Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiauroeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw.Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinyddi'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft.Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau,rwyt ti mor garedig a thrugarog,mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael!Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw

18. pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanca honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy.

19. Am dy fod ti mor drugarog,wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch.Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd,a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos.

20. Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw.Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta,a dal i roi dŵr i dorri eu syched.

21. Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd.Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim;wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo.

22. Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw.Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,a tir Og, brenin Bashan.

23. Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhwag sydd o sêr yn yr awyr.A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweudwrth eu tadau eu bod i'w feddiannu.

24. A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd.Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad.Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw –iddyn nhw wneud fel y mynnon nhwâ'r bobl a'u brenhinoedd.

Nehemeia 9